Car Cêbl Llandudno | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Dewch i fwynhau tro ar Gar Cêbl Llandudno pan fyddwch chi'n ymweld â’r dref hardd hon ar lan y môr. Wrth i’r ceir cêbl lithro’n dawel o Happy Valley i gopa Pen y Gogarth (679tr), bydd panorama anhygoel yn ymagor o'ch blaen - golygfeydd rhyfeddol o Landudno, y Gogarth Fach, aber afon Conwy a’r tu hwnt. Car cêbl Llanduno yw’r system car cêbl hwyaf i deithwyr ym Mhrydain. Dewiswch docyn dwyffordd neu un ffordd (18 munud) o Happy Valley neu o’r copa, lle mae 'na gaffi. Cyn ichi ddychwelyd, cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd o Ynys Môn, Ynys Seiriol a mynyddoedd Eryri. Neu beth am grwydro ar y llu o droeon hyfryd dros Ben y Gogarth gyda’i lwybrau natur a'r olion cynhanesyddol.
cysylltu
Car Cêbl Llandudno
Y Fach
Pen y Gogarth
Llandudno
Ffôn: 01492 877205
VAQAS
Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £6.50
Plant (hyd at 14 oed):£4.50
Nodyn: Mae'r prisiau uchod ar gyfer taith ddwy ffordd - Tocyn dwy ffordd i deulu £17.00
Oriau Agor
Car Cêbl Llandudno
19 Mawrth - 31 Hydref
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
categori
Rhan o: Hanesyddol, Teulu categori