Eglwys Gadeiriol Bangor | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae'n bosibl mai Eglwys Gadeiriol Bangor, ar lan ddeheuol Afon Menai sy'n gwahanu Ynys Môn a thir mawr gogledd Cymru, yw'r unig Eglwys Gadeiriol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael ei defnyddio'n ddi-fwlch ers y dechrau. Dyma un o'r mynachdai cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyd. Fe'i sefydlwyd gan Deiniol Sant yn 525. Pan gysegrwyd Deiniol yn Esgob yn 546, daeth ei eglwys yn Eglwys Gadeiriol.
Nid yr adeilad gwreiddiol welwch chi heddiw wrth gwrs, oherwydd mae'r Eglwys Gadeiriol wedi cael ei hailgodi sawl gwaith. Codwyd yr eglwys gerrig gyntaf gan yr Esgob Dafydd rhwng 1120 ac 1130.
cysylltu
Eglwys Gadeiriol Bangor
Canolfan yr Esgobaeth
Clos yr Eglwys Gadeiriol
Bangor
Gwynedd
Ffôn: 01248 353983
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Nodyn: Ni chodir tâl am fynd i mewn i'r Eglwys Gadeiriol ond byddwn bob amser yn croesawu unrhyw roddion.
categori
Rhan o: Hanesyddol, Diwylliant a Threftadaeth, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Eglwys Gadeiriol Bangor ?
Cludiant Cyhoeddus
Bangor