Canolfan Chwaraeon Dwr Plas Menai | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Ym Mhlas Menai, mi gewch ddewis heb ei ail o gyrsiau chwaraeon dwr a chwaraeon mynydd. Beth am ddysgu rhywbeth newydd, ennill cymhwyster neu
weithio ym maes chwaraeon dwr - mae'r drws ar agor ichi yn y Ganolfan
Chwaraeon Dwr Genedlaethol.
Gallwch roi cynnig ar hwylio dingi, hwylfyrddio,
neu fynd mewn cwch pwer, canw, caiac, neu gwch hwylio, dringo neu feicio
mynydd ar ein cyrsiau a'n gwyliau menter. Mae gennym fwy na 23 blynedd
o brofiad yn dysgu gweithgareddau awyr agored ac yn hyfforddi'r sgwadiau
hwylio cenedlaethol, felly mi fyddwch mewn dwylo da. Ein tîm brwd
ac ymroddedig o hyfforddwyr yw'r rhai uchaf eu cymwysterau
a'r mwyaf profiadol gewch chi yn y Deyrnas Unedig. Y tu hwnt i fôr, mynyddoedd, llynnoedd
ac afonydd Gogledd Cymru, bydd Plas Menai hefyd yn cynnal cyrsiau a theithiau antur
dramor.
Â
cysylltu
Canolfan Chwaraeon Dwr Plas Menai
Y Ganolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol
Caernarfon
Gwynedd
Ffôn: 0845 846 0029
Ffacs: 0845 846 0031
VAQAS
Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
Nodyn: Cysylltwch â Phlas Menai i holi am brisiau a rhestr lawn o'r cyrsiau
Oriau Agor
Canolfan Chwaraeon Dwr Plas Menai
2 Ionawr - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
08:00 - 17:00 | |||||||
08:00 - 16:30 |
categori
Rhan o: Antur categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Chwaraeon Dwr Plas Menai?
Ar y ffordd Oddi ar wibffordd yr A55, cymerwch ffordd ymadael 10 (A487) i gyfeiriad Caernarfon. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown am oddeutu 6 milltir.
Ar feic: Mae Plas Menai ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 8.
Trên: Bangor yw'r brif orsaf drenau agosaf, 8 milltir i ffwrdd.
Cludiant Cyhoeddus
Rheilffordd – Bangor