Atyniadau Gogledd Cymru

Lloyd George Museum

Amgueddfa Lloyd George | Gweld Manylion Atyniad

Lloyd George Museum - front of building

disgrifiad

'Nod Amgueddfa Lloyd George a Highgate, ei gartref bore oes, yw dehongli bywyd a chyfnod David Lloyd George 1863-1945 drwy gasglu eitemau sy'n gysylltiedig ag ef, gofalu amdanynt a'u harddangos. Bwriedir datblygu'r Amgueddfa a Highgate yn ganolfan deilwng i goffáu un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif ac yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth a gwaith ymchwil i hyrwyddo ymwybyddiaeth fyd-eang o'r hyn a gyflawnodd.'

Dewch i ddarganfod bywyd a chyfnod David Lloyd George yn yr Amgueddfa ac yn Highgate, ei gartref ym more'i oes. Lloyd George oedd un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif - ef fu'n gyfrifol am gyflwyno'r pensiwn i'r henoed, bu'n arwain y wlad ac yn Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a rhoddodd y bleidlais i fenywod - ond ni lwyddodd i ddatrys problem Iwerddon.

Yn yr Amgueddfa, fe allwch weld arddangosfa unigryw o wrthrychau, ffilm am ei fywyd, rhyfeddod 'y pen sy'n siarad', ystafell ddosbarth Oes Fictoria, llyfrgell, ac mae yno hefyd bwynt cysylltu â'r rhyngrwyd a siop. Mae Highgate wedi'i ail-greu fel yr oedd pan oedd Lloyd George yn byw yno rhwng 1864 a 1880 ac felly hefyd weithdy crydd ei ewyrth. Ac mi gewch chi fwynhau'r ardd fwthyn Fictoraidd.

cysylltu

Amgueddfa Lloyd George
Llanystumdwy
Criccieth
Gwynedd

Ffôn: 01766 522071
Ffacs: 01766 522071

E-Bost | Gwefan

prisiau

cyffredinol

Oedolion: £4.00
Plant:£3.00

Nodyn: Tocyn teulu £10.00 (2 oedolyn a faint bynnag o blant) Gostyngiadau i grwpiau - ffoniwch am fanylion

Oriau Agor

Amgueddfa Lloyd George
1 Mai - 31 Mai
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
10:30 - 17:00YesYesYesYesYes
1 Mehefin - 30 Mehefin
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
10:30 - 17:00YesYesYesYesYesYes
1 Gorffennaf -
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
10:30 - 17:00YesYesYesYesYesYesYes
1 Hydref - 31 Hydref
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
11:00 - 16:00YesYesYesYesYes

Nodyn: Bob penwythnos Gwyl Banc - drwy drefniant ar adegau eraill

categori

Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Hanesyddol categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Amgueddfa Lloyd George?

Mae'r Amgueddfa yn Llanystumdwy rhwng Cricieth a Phwllheli fymryn oddi ar yr A197.

Cludiant Cyhoeddus

Bws – Cricieth

rhywle i aros?

agosaf digwyddiadau

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Bwyty Maes-y-Neuadd

Bwyty Maes-y-Neuadd

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 17 milltirs o
Amgueddfa Lloyd George

Caffi Caban

Caffi Caban

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 26 milltirs o
Amgueddfa Lloyd George