Atyniadau Gogledd Cymru

Anglesey Sea Zoo

Sw Môr Môn | Gweld Manylion Atyniad

Anglesey Sea Zoo

disgrifiad

Mae bywyd rhyfeddol y môr i’w weld yn acwariwm mwyaf Cymru!

O longddrylliad y Seven Sisters sy’n llawn Llysywod Pendwll, i’r Pwll Siarcod, a hefyd y Goedwig Gwymon sy'n gyforiog o bysgod enfawr. Mae mwy na 150 o rywogaethau brodorol i'w gweld yma, o’r cyfarwydd i’r rhyfedd a'r syfrdanol, mae yma rywbeth i bawb!

Yn y Parth Di-asgwrn cewch ddod wyneb yn wyneb â chreaduriaid llithrig megis yr Octopws slei ac efallai y gwelwch chi hyd yn oed y Peunod sy'n byw dan y môr! Cofiwch gadw golwg am ein creaduriaid bach - Morfeirch bychain, Siarcod babi a Chimychiaid pitw. Neu tybed hoffech chi ddeifio i'r dwr heb wlychu tamaid? Os felly, rhowch gynnig ar y Scwba rhithiol a nofio gyda’r pysgod!

Mae rhywbeth difyr yn digwydd o hyd yn Sw Môr Môn, y bwydo dyddiol a'r sgyrsiau rhyngweithiol drwy’r dydd. Bydd cyfle hyd yn oed ichi weld y gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud yn lleol ac yn rhyngwladol. 



Y tu allan, fe allwch chi ymweld â lle Capten Jake, lle mae golff gwirion, maes antur y morladron, castell neidio Octonaid, canonau dwr y morladron, a hyd yn oed cychod bach ichi eu rheoli o bell, a llawer mwy. Ac, i'r plant mawr hynny y mae'n well ganddyn nhw ymlacio, mae digon o le i eistedd a mwynhau golygfeydd anhygoel Eryri.

Beth am flasu tamaid neu bryd o fwyd yn ein bistro trwyddedi gsydd wedi ennill gwobrau. Yma, gweinir prydau cartref arbennig bob dydd gan ddefnyddio cynnych lleol ffres yn ogystal â nwyddau masnach deg o fannau sy'n bellach i ffwrdd. Neu beth am brynu'ch cofroddion gwyliau yn siop anrhegion a theganau gorau Ynys Môn? Mae tomenni o bob math o roddion yma, rhai'n wirion a rhai 'môr' hyfryd..

Efallai yr hoffech chi bysgota am berlau? 
Yn ein siop rhoddion, cewch ddewis eich wystrysen eich hun a gwylio wrth inni dynnu’r perl ohoni a’i brisio ichi – rhodd arbennig i chi'ch hun neu i rywun arbennig.

Yn Sw Môr Môn,does dim ots am y tywydd, fe allwn warantu profiad dysgu hwyliog i chi a diwrnod sy'n fôr o hwyl! Tybed wnaethon ni gofio sôn bod ein tocynnau safonol i gyd yn ddilys am 7 niwrnod!* Felly, fe allwch chi ddod yn ôl dro ar ôl tro!

Mae'n Ddiwrnod Môr Arbennig! 



*(Telerau ac amodau ar waith)


cysylltu

Sw Môr Môn
Brynsiencyn
Ynys Môn

Ffôn: 01248 430411
Ffacs: 01248 430213

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Cynllun Croeso
  • Toiledau
  • Partïon ysgol
  • Ardal chwarae
  • Picnic Area
  • Parcio
  • Aiop Anrhegion
  • Ystafell Addysg
  • Partïon Hyfforddwr
  • Arlwyo
  • Cyfleuster Newid Baban
  • Pob Tywydd
  • Datganiad Mynediad

Consortiwm

  • Ten Top Attractions
  • NWT
  • Anglesey Attractions

VAQAS

VAQAS

Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.

Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...

prisiau

cyffredinol

Oedolion: £7.50
Hyn: £7.00
Myfyrwyr: £7.00
Plant (hyd at 16 oed):£6.50

Grwpiau *

Oedolion: £6.00
Hyn: £5.00
Myfyrwyr: £5.00
Plant (hyd at 16 oed:£4.75

* Nifer lleiaf mewn grwp: 10

Nodyn: Byddwn hefyd yn cynnig cyfraddau i deuluoedd, gan sylweddoli nad dau oedolyn a dau bwynt pedwar o blant sydd ym mhob teulu. Felly, mae'r prisiau i deuluoedd yn berthnasol i bawb yn amrywio o un oedolyn ac un plentyn i ddau oedolyn a thri o blant. Cynigir pris grwp i ddeg o bobl neu ragor. Mae ein tocynnau ar gyfer unigolion ac ar gyfer teuluoedd yn ddilys am saith niwrnod, felly os dewch chi'n fuan yn yr wythnos ac y byddwch chi am ddod yn ôl eto i weld eich mêts morol, mi gewch chi wneud hynny am ddim!

Oriau Agor

Sw Môr Môn
15 Chwefror - 30 Hydref
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
10:00 - 16:45YesYesYesYesYesYesYes

Nodyn: Rydym ar agor bob dydd o hanner tymor mis Chwefror tan ddiwedd hanner tymor mis Hydref rhwng 10am a 6pm, ac mae'r mynediad olaf i'r acwariwm tua 4.45pm. Rydym hefyd gan amlaf ar agor ar y penwythnos drwy'r Gaeaf, ond edrychwch ar ein gwefan neu ffoniwch am fanylion ar yr adegau hyn.

categori

Rhan o: Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Teulu, Antur categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Sw Môr Môn?

Dilynwch arwyddion yr A55 am Gaergybi gan groesi Pont Ffordd Britannia i Ynys Môn. Ychydig cyn ichi adael Pont Ffordd Britannia, dilynwch y llithrffordd ar y chwith sydd yn eich cyfeirio i'r A4080 - Llanfairpwllgwyngyll/Niwbwrch.

Gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn a llun cimwch arnynt oddi ar Bont Ffordd Britannia, trowch i'r chwith fymryn cyn pentref Llanfair PG ac i lawr i gyfeiriad Niwbwrch, gan fynd heibio Plas Newydd (yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ar eich chwith ac i lawr drwy Lanedwen ac i mewn i bentref Brynsiencyn. Trowch oddi ar y briffordd ychydig cyn iddo sgubo i'r dde heibio i Dy Tafarn y Groeslon, a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i lawr at lan y môr - mae Sw Môr Môn ar ochr dde'r ffordd.

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Caffi Caban

Caffi Caban

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 12 milltirs o
Sw Môr Môn

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 12 milltirs o
Sw Môr Môn