Glaze Away | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Yn Glaze Away gallwn gynnig dros 100 o wahanol eitemau o grochenwaith heb eu gwydro ichi greu eich cynllun eich hun arnyn nhw. Mae'n bosib defnyddio'r darnau creadigol hyn ar eich ar eich bwrdd bwyd a'u cynllunio drwy ddefnyddio'ch cyfuniad personol eich hun o liwiau. Pwy a wyr pa liw oedd y deinasoriaid.? Mae gennym fwy na 30 o wahanol liwiau llachar y gallwch eu defnyddio i addurno'ch crochenwaith heb ei wydro ac enwau'r rheini'n amrywio o Tickly Pink i Green Acres, o Tweety Bird i Pumpkin Pie.
Mae gennym gyfres o nwyddau penodol ond os oes 'na rai eitemau yr hoffech chi inni eu cynnwys yn ein stoc, byddem yn falch o geisio helpu.
Mae stiwdio gweithgareddau creadigol a chaffi seramig Glaze Away yn fodern ac mae digon o le yno. Dyma'r amgylchedd perffaith ichi ymlacio a bod yn greadigol..
I gael gwell golwg ar y lle a chael blas ar ein stiwdio gweithgareddau creadigol a'n prosiectau, croeso ichi daro heibio i gael sgwrs anffurfiol a chrwydro o gwmpas.
cysylltu
Glaze Away
54 Ffordd Abergele
Colwyn Bay
Conwy
Ffôn: 01492 533500
prisiau
Nodyn: Yn Glaze Away mae gennym dros 100 o ddarnau o grochenwaith mewn stoc a'r rheini'n cynnwys matiau cwpan, cynwysyddion, mygiau, cadw mi gei a thebotau a hyd yn oed triceratops! Mae'r cyfan yn aros yno i chi eu haddurno â'ch cynllun chi'ch hun, eu gwydro a'u tanio. Bydd crochenwaith heb ei wydro'n amrywio o ran pris rhwng £3.00 a £35.00. Bydd ffi stiwdio £3.50 yn talu am gost yr iswydro, y paent a'r gwydro a'r tanio. Caiff pob peintiwr ddewis dwy eitem o grochenwaith heb ei wydro i'w haddurno, eu gwydro a'u tanio. Dychmygwch ddewis o blith 30 o wahanol liwiau i greu eich crochenwaith eich hun!
Oriau Agor
Glaze Away
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
01:00 - 04:00 | ![]() | ||||||
09:00 - 04:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Oriau agor Ar agor ar wyliau cyhoeddus. Bydd Glaze Away ar gau ar ddydd Llun yn ystod tymor yr ysgol. Ar agor o 1.00pm ar ddydd Mawrth yn ystod y tymor. Ar agor rhwng 9.30 a 4.00 yn ystod y gwyliau. Dydd Mercher tan ddydd Sadwrn 9.30 - 4.00 pm Dydd Sul 12:00 - 4:00pm drwy drefnu o flaen llaw i bartïon o 6 neu fwy'n unig. Gall partïon o 8 neu fwy drefnu i ddod gyda'r nos. Gellir gwneud trefniant arbennig ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a pharïon masnachol. Rhaid talu blaendal p £20 (nad oes modd ei ad-dalu) dair wythnos o flaen llaw i gadarnhau ymweliad gan barti neu grwp. Ffoniwch o flaen llaw i drefnu ymweliad neu i drefnu'ch parti.
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Teulu, Diwylliant a Threftadaeth, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Glaze Away?
Cludiant Cyhoeddus
Gorsaf Reilffordd Bae Colwyn