Canolfan Marchogaeth Bridlewood | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Canolfan Marchogaeth Bridlewood fymryn y tu allan i Brestatyn yng ngogledd Cymru, mewn lle da yn nhir agored cefn gwlad nid nepell ar gefn ceffyl o Draeth Talacre sy'n cynnig dros 6 milltir o dywod euraidd. Mae Bridlewood yn cynnig amrywiaeth lawn o gyfleusterau ar gyfer ceffylau: lifrai LLAWN, lifrai RHANNOL a darparu gwasanaeth lifrai eich hun. Mae gennym siop tac ar y safle sy'n gwerthu dillad marchogaeth a chyflenwadau i anifeiliaid anwes. Byddwn yn darparu gweithgareddau ar gyfer oedolion a phlant a bydd staff cymwys y B.H.S yn tywys pob taith a hac. Mae gennym sawl clwb i blant hefyd lle y gall eich plentyn weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig ym maes gofalu am geffylau. Dewch i farchogaeth ar ein traeth lleol a mwynhau harddwch y cyffiniau. Pan fydd eich plentyn ar ei wyliau, beth am roi cyfle iddo roi cynnig ar fynd ar gefn ceffyl a helpu i ofalu am geffylau ar un o'n diwrnodau merlod? Mae'r diwrnod cyffrous yn cynnwys 2 awr o wersi marchogaeth ac, yn ystod y diwrnod, bydd cyfle ymarferol i wneud gwaith gwastrad a gofalu'n gyffredinol am y ceffylau. Bydd pob plentyn yn cael tystysgrif i fynd adref. Â Mae'n ffordd ragorol iddyn nhw gael profiad a gwella'u sgiliau marchogaeth. Mae'r diwrnodau merlod rhwng 10am a 4pm. Mae sesiynau hanner diwrnod ar gael. Lluniaeth ar gael yn ein Caffi neu dewch â phecyn bwyd.
cysylltu
Canolfan Marchogaeth Bridlewood
Fferm Maes-y-Coed
Tynymorfa, Gwespyr
Prestatyn
Sir y Fflint:
Ffôn: 01745 888 922
Ffacs: 01745 854 937
prisiau
Nodyn: Mae'r prisiau'n dechrau o £12.00 ar gyfer Llwybrau Ceffylau. Mae rhagor o fanylion ar ein gwefan.
Oriau Agor
Canolfan Marchogaeth Bridlewood
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
08:00 - 19:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Ar agor drwyr' flwyddyn
categori
Rhan o: Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Teulu, Antur categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Marchogaeth Bridlewood?
Fymryn oddi ar Ffordd yr Arfordir, yr A548, tua milltir o Brestatyn i gyfeiriad y Fflint.
Cludiant Cyhoeddus
Prestatyn