Atyniadau Gogledd Cymru

Corris Mine Explorers

Chwilotwyr Cloddfa Corris | Gweld Manylion Atyniad

Family looking through the hatch

disgrifiad

Cyfle prin i archwilio hen chwarel lechi yng nghwmni un o Chwilotwyr Chwareli gorau Cymru. Dechreuwyd gweithio yn y chwarel gyntaf yn 1836 ac fe adawodd y chwarelwr olaf oddeutu 40 mlynedd yn ôl. Mae dros130 o flynyddoedd o hanes chwarelydda yno'n disgwyl amdanoch chi.

Mae fel petai'r chwarel newydd gau. Mae'r peiriannau, yr arfau, hyd yn oed y canhwyllau a phecyn o sigaréts yno o hyd fel y gadawodd y chwarelwyr nhw.  Mae Chwilotwyr Chwareli Corris yn rhoi'r cyfle ichi ymweld â'r gwaith hwn a chamu i fywyd gwaith caled y chwarelwyr a chenedlaethau'r gorffennol.

Cewch ddewis un o dair taith:

Taith Blasu (1 awr) - addas i deuluoedd (9 oed o leiaf) a'r rheini sydd am gael taith fyrrach.  Darperir offer: Golau llaw a helmed. Dewch i archwilio tywyllwch yr hen chwarel lechi a darganfod siambrau enfawr a'r peiriannau a'r arfau a adawyd yno. Dyma gyfle i flasu'r hyn sy'n digwydd ar y teithiau archwilio hwy.

Taith Chwilota'r Chwarel (2 awr) - mentrwch yn ddyfnach i'r chwarel adysgu rhagor am ei hanes cymdeithasol (11 oed o leiaf). Darperir offer: Helmed, lamp cap, gwregys lamp a chlipiau diogelwch. Bydd gofyn gwisgo'r offer diogelwch arbennig cyn mentro i'r siambrau llechi enfawr a adawodd y chwarelwyr ar eu hôl. Cewch ddarganfod offer, peiriannau ac olion eraill y chwarelwyr a adawyd yno a gweld sut y byddai'r peiriannau wedi gweithio. Cewch synnu wrth glywed hanesion bywyd y chwarel yn dod yn fyw yng ngeiriau'ch tywysydd.

Chwilota'r Chwarel - Hanner Diwrnod (4 awr) - Taith lle cewch chi archwilio, darganfod a mwynhau'r cyffro (13 oed o leiaf). Darperir offer: Helmed, lamp cap, gwregys lamp a chlipiau diogelwch. Bydd gofyn gwisgo offer diogelwch arbennig cyn archwilio gwahanol rannau'r chwarel, y siambrau a gloddiwyd a llaw a'r rheini a gloddiwyd â pheiriannau. Cewch ddarganfod hen offer, gweld sut y byddai hwnnw wedi cael ei ddefnyddio a rhoi cynnig arno'ch hun. Cewch ddarganfod hen arfau, canhwyllau ac olion eraill y chwarelwyr a adawyd ar ôl. Daw'r chwarel yn fyw wrth glywed hanesion difyr ei bwrlwm, a'i thrasiedïau. Cewch fynd i fwy na 10 o siambrau, siambrau na fydd pobl yn ymweld â hwy'n aml iawn.

Bydd y teithiau'n cychwyn yng Nghanolfan Grefftau Corris, yn y canolbarth. Ar agor drwy'r flwyddyn. Rhaid trefnu'r teithiau 2 awr a hanner ddiwrnod o flaen llaw.

Beth am gael golwg ar ein fideo?

 

 

cysylltu

Chwilotwyr Cloddfa Corris
Canolfan Grefftau Corris
Corris
Machynlleth
Powys

Ffôn: 01654 761244

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Cynllun Croeso
  • Toiledau
  • Partïon ysgol
  • Ardal chwarae
  • Picnic Area
  • Parcio
  • Aiop Anrhegion
  • Arlwyo
  • Cyfleuster Newid Baban
  • Pob Tywydd
  • Datganiad Mynediad

Consortiwm

  • NWT
  • Attractions of Snowdonia

prisiau

Nodyn: Taith Blasu (1 awr): Oedolion £10 - Plant (9-15 oed) £7 // Taith Chwilota'r Gwaith (2 awr): £16 // Taith Antur Hanner Diwrnod yn y Gwaith £32

Oriau Agor

Chwilotwyr Cloddfa Corris
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
10:00 - 17:00YesYesYesYesYesYesYes

Nodyn: Rhaid i'r rhai sy'n mynd ar y Daith Flasu 1 awr fod yn 9 oed o leiaf, ar yr Archwiliad 2 awr fod yn 11, ac ar gyfer y Daith Hanner diwrnod, rhaid bod yn 13 oed o leiaf. Rhaid i bob plentyn dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

categori

Rhan o: Hanesyddol, Teulu categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Chwilotwyr Cloddfa Corris?

Mae Canolfan Grefftau Corris ar briffordd yr A487 rhwng Machynlleth a Dolgellau

Cludiant Cyhoeddus

Arosfan fysiau ar yr A487 y tu allan i Ganolfan Grefftau Corris. Gorsaf drenau ym Machynlleth - 5 milltir.

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Caffi'r Crochan

Caffi'r Crochan

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. a milltir o
Chwilotwyr Cloddfa Corris

Bwyty Maes-y-Neuadd

Bwyty Maes-y-Neuadd

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 19 milltirs o
Chwilotwyr Cloddfa Corris