Atyniadau Gogledd Cymru

Go Below, Underground Adventures

Go Below, Anturiaethau Tanddaearol | Gweld Manylion Atyniad

disgrifiad

Gweithgarwch antur unigryw yw Go Below Underground Adventures ar gyrion Betws-y-coed sy'n mynd â phobl ar daith danddaearol gyffrous am hanner diwrnod!

I brofi'r wefr fwyaf un, heriwch eich hun i abseilio, i fynd ar lein-sipio, dringo siafft, mynd ar gwch, sgramblo a dringo rhaeadr ac ati ac ati a dychmygu mai chi yw Indiana Jones wrth ichi deithio drwy'r amgylchedd rhyfeddol hwn!

Bydd gan arweinydd eich taith hefyd gyfoeth o wybodaeth am y diwydiant mwyngloddio a'i hanes ac fe all ddangos arteffactau ichi dim ond ichi ofyn. 

Bydd y daith yn dechrau yn ein canolfan yng Nghaffi Rhaeadr Conwy, lle y cewch chi harnais, helmed, lamp pen ac ati yn ogystal â Wellingtons cyn ichi ei hel hi am y gwaith mwyn. Cewch fwynhau golygfeydd syfrdanol wrth ichi ddringo cyn mynd ar eich pen i'r tywyllwch dirgel....... 

Ar eich taith danddaearol drwy'r mynydd, mi welwch chi lynnoedd gleision sydd wedi mynd yn angof, ogofâu helaeth a hen beiriannau'r mwynwyr wedi'u gadael yn gorwedd yn y tywyllwch. Mi groeswch leiniau sipio a thrawslwybrau, mi ddringwch chi wynebau'r graig, croesi'r dwr mewn cwch ac abseilio oddi ar lethrau i gael y wefr adrenalin honno a fydd yn gwneud ichi wenu o glust i glust!

Does dim angen i chi fod yn brofiadol, a fydd 'na ddim ceudyllu na gwasgu drwy fylchau bychain, ac os yw'n well gennych chi, fe gewch chi beidio â gwneud y gweithgareddau.. Darperir yr holl offer a'r esgidiau.

I gael gwybod am fathau eraill o dripiau a gynigir gennym edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni. Croeso i grwpiau; criwiau stag/heir, digwyddiadau corfforaethol a phreifat gysylltu â ni i drefnu taith.

Gallwch drefnu ar lein yn awr hefyd! Edrychwch i weld pa deithiau sydd ar gael, yr amserau a'r prisiau. 

Hefyd, mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar ein gwefan; Edrychwch ar y dudalen "Gwybodaeth hanfodol" i gael gwybod popeth y mae angen ichi ei wybod a gwylio'n "Fideo" gyffrous i weld beth sy'n digwydd dan ddaear! Hefyd mae llwyth o negeseuon yn ein canmol gan gwsmeriaid yn y copi o'n "Llyfr Gwesteion" tarwch heibio i'r "Oriel" i weld rhagor o luniau. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld ar Facebook a Twitter! 

cysylltu

Go Below, Anturiaethau Tanddaearol
Go Below - Anturiaethau Tanddaearol
Rhaeadr Conwy
Betws-y-Coed
Conwy

Ffôn: 01690 710108

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Pob Tywydd
  • Arlwyo
  • Partïon Hyfforddwr
  • Parcio
  • Toiledau

Consortiwm

  • NWT

prisiau

cyffredinol

Oedolion: £40.00
Hyn: £40.00
Myfyrwyr: £40.00
Plant:£40.00

Nodyn: (Hyd Taith 4-5 awr)

Oriau Agor

Go Below, Anturiaethau Tanddaearol
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
08:00 - 21:00YesYesYesYesYesYesYes

categori

Rhan o: Hanesyddol, Antur categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Go Below, Anturiaethau Tanddaearol?

Mae ein 'stafell taclau' wrth ymyl Caffi Rhaeadr Conwy, ar briffordd yr A5 wrth y gyffordd â'r B4406 i Benmachno. Mae'n hawdd cyrraedd o'r de (drwy ddilyn yr A5 o Telford), o'r gorllewin (yr A5 o Gaergybi) neu o'r gogledd drwy ddilyn yr A470 oddi ar ffordd yr arfordir, yr A55. Rydym ychydig filltiroedd i'r de o dref boblogaeth Betws-y-Coed.

rhywle i aros?

agosaf digwyddiadau

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Caffis Hufen Iâ Cadwalader

Caffis Hufen Iâ Cadwalader

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. a milltir o
Go Below, Anturiaethau Tanddaearol

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 10 milltirs o
Go Below, Anturiaethau Tanddaearol