Atyniadau Gogledd Cymru

Harry's Bistro

Harry's Bistro | Gweld Manylion Atyniad

disgrifiad

Yn Henllys Hall ar y bryniau uwchben Biwmaris, Ynys Môn, mae gan Fistro Harry's enw da am gynnig bwyd traddodiadol ag arddull gyfoes, a hynny mewn amgylchedd unigryw a hamddenol.

  Mae'r cogydd Simon Doyle a'i bartner Nia Roberts sy'n gyfrifol am flaen y ty wedi cyfuno gwasanaeth gwych, bwyd bistro ardderchog a naws gwirioneddol braf, gan wneud Harry's yn lle gwerth chweil i'r rhai sydd yn yr ardal ymweld ag ef. 

 

 

cysylltu

Harry's Bistro
Henllys
Beaumaris
Ynys Môn

Ffôn: 01248 812976
Ffacs: 01248 812976

E-Bost | Gwefan

Oriau Agor

Harry's Bistro
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
12:00 - 14:00YesYesYesYesYes
12:00 - 15:00Yes
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
18:00 - 21:00YesYesYesYesYes

categori

Rhan o: Bwyd a diod categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Harry's Bistro?

Dim ond milltir o Fiwmaris ydyn ni, ym mhrydferthwch Ynys Môn.

Dilynwch yr A5 neu'r A55 i Fangor, croeswch Afon Menai dros unrhyw un o'r ddwy bont a dilynwch yr arwyddion am Fiwmaris Wrth ichi fynd i mewn i Fiwmaris o gyfeiriad Pont Menai, dilynwch Stryd y Castell drwy ganol y dref, gan fynd heibio i'r castell ar y chwith. Ewch ymlaen allan o'r dref gyda'r môr ar y dde i chi.

Cymerwch y ffordd gyntaf i'r chwith ac yna'r gyntaf i'r chwith eto, i ddilyn y lôn i fyny'r allt a'r arwydd 'Henllys Hall'. Ar ben yr allt, mi ewch i mewn i'r Ystâd ar y dde ichi (unwaith eto â'r arwydd 'Henllys Hall')

Gyrrwch ar hyd parcdir y cwrs golff heibio i'r clwb golff ar y chwith ichi nes ichi gyrraedd y brif Neuadd. Ewch yn eich blaen heibio i'r ffynnon at dalcen yr adeilad, trowch i'r dde a pharcio'n edrych dros y cwrs golff. Mi welwch chi'r fynedfa i fwyta Harry's yng nghanol adeilad y Neuadd

rhywle i aros?

agosaf digwyddiadau

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau