Atyniadau Gogledd Cymru

Derimon Smokery & Shop

Derimon Ty Cochi a Siop | Gweld Manylion Atyniad

DeriMon Smokery and Shop - David and Gwen

disgrifiad

Mae’r enw DeriMon yn deillio o enw’n heiddo Deri Isaf. Coed derw a orchuddiai rhan helaeth o’r ardal hon ar Ynys Môn ers talwm ac mae llawer o enwau llefydd yr ardal yn adleisio hynny. Cochi a halltu, wrth gwrs, oedd y dull a ddefnyddid i gadw bwyd cyn oes yr oergell a’r rhewgell ac roedd gan lawer o aelwydydd, gan gynnwys ein haelwyd ninnau eu tai cochi eu hunain at y diben hwn.  Wrth gwrs, mae pethau wedi newid tipyn ac erbyn hyn, byddwn yn cochi bwyd er mwyn ychwanegu blas yn hytrach nag oherwydd bod angen ei gadw. Heddiw, fe allwn ni bacio bwyd mewn gwactod hefyd, ac mae cochi a halltu’n golygu bod bwyd yn para'n hwy ar y silff naill ai mewn oergell neu rewgell. Mae busnes y teulu wedi’i seilio ar flynyddoedd o gochi bwyd i’n teulu ni’n hunain ac i’n cyfeillion, gan ddefnyddio sglodion a blawd llif coed derw 400 oed sydd wedi cwympo'n naturiol adeg storm!! Erbyn hyn, mae gennym gochdy o’r math diweddaraf un, a byddwn yn dal i gadw at ryseitiau traddodiadol, rhai ohonynt yn unigryw i ni'n hunain, er mwyn sicrhau’r blas gorau. Byddwn yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth diogelwch bwyd yr UE. Gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes dim cemegau, lliwurau na blasau artiffisial o gwbl yn ein cynnyrch. Dyma’r unig gochdy sydd ar ôl ym mhrydferthwch Ynys Môn. Rydym ar dân dros ein busnes, a byddem wrth ein bodd yn rhannu'r profiad hwn efo chi. Ym mis Tachwedd 2006 dyfarnwyd ‘Gwobr Arian – Cynhyrchwyr Bychain’ Gwobrau Gwir Flas Cymru i DeriMon am ein cig moch cartref.  Wrth gwrs, rydym yn falch iawn inni gael y clod hwn ac yn edrych ymlaen at gystadlu am y wobr hon eto ac am wobrau eraill yn y dyfodol gyda llawer mwy o'n cynnyrch. Ym mis Tachwedd 2007, cawsom Wobr Categori eto yng Ngwobrau Gwir Flas Cymru am y caws Cheddar gorau wedi’i gochi yng Nghymru. Yn 2008 roeddem ymhlith 5 Gwobr "Arwr Bwyd Lleol Gary Rhodes" am Lysywen Goch Môn .  

cysylltu

Derimon Ty Cochi a Siop
DeriMon Ltd
Deri Isaf
Dulas
Ynys Môn

Ffôn: 01248 410536

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Toiledau
  • Picnic Area
  • Parcio
  • Aiop Anrhegion
  • Arlwyo
  • Pob Tywydd

Oriau Agor

Derimon Ty Cochi a Siop
2 Ionawr - 31 Rhagfyr
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
09:30 - 16:30YesYesYesYesYes
09:30 - 17:00Yes

Nodyn: Bydd angen trefnu i ymweld ar adegau eraill.

categori

Rhan o: Bwyd a diod categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Derimon Ty Cochi a Siop?

Mae'r Ty Cochi a'r Siop fymryn oddi ar ffordd yr arfordir, yr A5025 rhwng Brynrefail a Phenysarn yng Ngogledd Ddwyrain Môn.

rhywle i aros?

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

The Lobster Pot

The Lobster Pot

Ynys Môn

mwy

tua. 9 milltirs o
Derimon Ty Cochi a Siop

The Loft Restaurant & Brasserie - Ye Olde Bulls Head Inn

The Loft Restaurant & Brasserie - Ye Olde Bulls Head Inn

Ynys Môn

mwy

tua. 14 milltirs o
Derimon Ty Cochi a Siop