Amgueddfa Môr Caergybi a Bistro'r Harbwr | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae'r amgueddfa'n brofiad gwych i'r teulu i gyd. Camwch yn ôl i'r gorffennol yng ngorsaf bad achub hynaf Cymru (oddeutu 1858) sy'n gartref i gasgliad rhyfeddol o arddangosion a'r rheini'n adrodd hanes morwrol rhyfeddol Caergybi, Ynys Môn. Cewch ddysgu ffeithiau syfrdanol am fywyd ar y môr yn y dyddiau fu, am sut y bu pobl yn byw ac yn marw ar eu cychod a hynny adeg rhyfel ac adeg heddwch. Cewch wybod am fferis modern yr oes hon â'u holl dechnoleg newydd wrth iddynt hwylio o Gaergybi i Iwerddon heddiw. Cewch ryfeddu at y modelau anhygoel, gweld rhai o arddangosion anhygoel o'r gorffennol, a chyffwrdd a theimlo'ch ffordd o gwmpas y llu o arddangosion rhyngweithiol. Mae'r amgueddfa'n hwylus i rywun sy'n defnyddio cadair olwyn ac mae toiledau ar gael. Mae Bistro'r Harbwr yn cynnig bwyty gwych dan do ac yn yr awyr agored a hwnnw'n edrych dros harbwr tlws Caergybi, lleoliad gwych i ymlacio a mwynhau pryd poeth neu oer blasus wedi ei baratoi'n ffres gan staff cyfeillgar. Mae'r fwydlen yn cynnig dewis helaeth, o damaid bach sydyn i bryd tri chwrs, o banad o de i botel o win. Rhowch gynnig ar ein cacennau cartref amheuthun.
cysylltu
Amgueddfa Môr Caergybi a Bistro'r Harbwr
Traeth Newry
Holyhead
Ynys Môn
Ffôn: 01407 764374
Ffacs: 01407 769 745
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £2.50
Plant:£1.00
Nodyn: Pris gostyngol - £1.50 / Tocyn teulu - £6.50
Oriau Agor
Amgueddfa Môr Caergybi a Bistro'r Harbwr
3 Ionawr - 22 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 16:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Ar agor bob dydd rhwng 10.00am - 4.00pm, ar gaeuyn ystod gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Amgueddfa Môr Caergybi a Bistro'r Harbwr?
Ar lan yr harbwr yn Nhraeth Newry.
Cludiant Cyhoeddus
Caergybi