Canolfan Marchogaeth Tal-y-Foel Ynys Môn | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Croeso i Dal-y-Foel, sy'n cynnig golygfeydd ysblennydd dros Afon Menai, a chyfle i gael gwyliau bach sydd fymryn yn wahanol!
Fe gewch chi nid yn unig ymlacio mewn llety ar fferm sydd wedi cael pedair seren gan y Bwrdd Croeso (mae gennym dair ystafell ensuite â bath trobwll!), ond (os dymunwch chi) cewch hefyd fynd i bysgota neu i wylio adar, neu fwynhau marchogaeth. Mae gennym ein canolfan farchogaeth ein hunain, a gallwn gynnig pecynnau wedi'u teilwra'n arbennig ichi, gan gynnwys Gwely a Brecwast i geffylau. Bydd rhai o'n gwesteion yn dod yma i farchogaeth, ond dod yma i fwynhau'r lleoliad gwledig heddychlon y bydd y rhan fwyaf.
Â
Â
cysylltu
Canolfan Marchogaeth Tal-y-Foel Ynys Môn
Tal-y-Foel
Dwyran
Llanfairpwllgwyngyll
Ffôn: 01248 430377
prisiau
Nodyn: Mae'r prisiau i'w gweld ar ein gwefan
categori
Rhan o: Teulu, Antur, Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Marchogaeth Tal-y-Foel Ynys Môn?
O Lanfairpwll, dilynwch yr A4080 i gyfeiriad Niwbwrch. Arhoswch ar yr A4080 nes ichi gyrraedd arwydd y Ganolfan Farchogaeth.
Trowch i'r chwith wrth y dafarn a dilynwch yr A4080 i gyfeiriad Porthaethwy. Trowch i'r dde pan welwch chi arwydd y Ganolfan Farchogaeth wrth ymyl y dafarn.
Dilynwch y ffordd am 1.5 milltir at y lan. Gallwn eich codi o'r arosfan bysiau os trefnwch chi o flaen llaw.
Cludiant Cyhoeddus
Llwybr Bws 42 o Fangor