Oriel Ynys Môn | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Prif amgueddfa ac oriel gelf Ynys Môn a hynny mewn adeilad a godwyd at y diben. Mae'r Oriel Hanes yn cynnig golwg wych ar ddiwylliant yr ynys, ei hanes a'i hamgylchedd. Yn yr Oriel Gelf, cewch weld rhaglen ddeinamig o arddangosfeydd a'r rheini'n newid yn gyson ac yn cynnwys celf, crefft, drama, cerfluniau a hanes cymdeithasol.
cysylltu
Oriel Ynys Môn
Rhosmeirch
Llangefni
Ynys Môn:
Ffôn: 01248 724444
Ffacs: 01248 750282
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Nodyn: *Am ddim
Oriau Agor
Oriel Ynys Môn
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:30 - 17:00 |
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Oriel Ynys Môn?
Teithiwch i Ynys Môn ar yr A55, gan droi am Langefni a'r A5114. Dilynwch yr A5114 drwy dref Llangefni gan ddilyn y system unffordd i'r dde ac wedyn troi i'r chwith am Benllech. Ewch yn syth ar draws y gylchfan ac yna trowch i'r chwith i fyny'r allt, gan ddilyn arwyddion y B5111 am Lannerch-y-medd. Mae'r Oriel ar y dde wrth ichi ddringo'r allt.