Mostyn | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Agorodd Mostyn ar ei ffurf bresennol yn 1979 a dyma'r oriel annibynnol fwyaf a noddir o'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Ein prif weithgarwch yw dangos celf gyfoes o Gymru a chelf ryngwladol mewn rhaglen o arddangosfeydd un-artist a chan grwpiau o artistiaid, pob un yn para oddeutu chwe wythnos. Pobl gyffredin yw ein cynulleidfa ar y cyfan a'n nod yw cynnig amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar lle bydd ymwelwyr yn gallu darganfod celf i'w hysgogi. Oherwydd safonau cyson uchel Mostyn, mae wedi cael ei chydnabod (gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Croeso Cymru ac mewn llyfrau teithio) yn brif oriel celfyddyd gyfoes Cymru.
Yn ôl y Guardian, Mostyn yw "un o leoliadau celf gyfoes mwyaf mentrus y Deyrnas Unedig".
Â
cysylltu
Mostyn
12 Stryd Vaughan
Llandudno
Conwy:
Ffôn: 01492 879201
Ffacs: 01492 878869
prisiau
Nodyn: Mynediad am ddim
Oriau Agor
Mostyn
4 Ionawr - 24 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
Nodyn: Ar agor ar Wyliau Banc Bydd yr oriel ar gau 25 a 26 Rhagfyr ac Ionawr 1.
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Mostyn ?
Mae'r Oriel oddeutu 100 metr o Orsaf Drenau Llandudno.
Cludiant Cyhoeddus
Llandudno