Canolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Canolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy yn rhan o Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn Queensferry, a dyma Ganolfan Chwaraeon Iâ Genedlaethol Cymru. Mae ganddi lawr o faint Olympaidd, sy'n gallu darparu ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau ar iâ, gan gynnwys Hoci Iâ, Cyrlio a Disgo ar yr Iâ.
Sglefrio ar Iâ yw'r ymarfer perffaith i bobl o bob oed, gan mai dyma un o'r ychydig chwaraeon y gall y teulu cyfan gymryd rhan ynddo. Mae gwersi ar gael.
Does dim ots a ydych chi'n sglefriwr profiadol ynteu'n hollol newydd i'r gamp, fe gewch chi ymuno â miloedd o bobl eraill sy'n mwynhau'r cyfleusterau anhygoel yng Nghanolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy.
Mae'r ganolfan hefyd yn cynnal Sioeau Iâ o bryd i'w gilydd gan Glwb Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy.
cysylltu
Canolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy
Queensferry
Deeside
Sir y Fflint:
Ffôn: 01244 845 440
prisiau
Nodyn: Mae ein hamserlen ar gyfer 2010/11 ar ein gwefan.
Oriau Agor
Canolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy
Nodyn: Mae'r wybodaeth fanwl am amserau agor 2010/11 ar gael ar ein gwefan.
categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy?
O'r Dwyrain a'r Gorllewin gadewch yr A494 ar y Gyffordd am Queensferry.