Siop Fferm Ystâd Pen-ar-lâg | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Yma yn Siop Fferm Ystâd Penarlâg, mae gennym dîm o bobl sy'n tyfu, yn prynu ac yn gwerthu'r bwyd gorau sydd gan Brydain i'w gynnig.
Ar oddeutu 20 erw o dir, fe dyfir ffrwythau a llysiau tymhorol, gan gynnwys yr asbaragws mae'n enwog amdano, ac mae cynnyrch y fferm i'w weld ar ei orau yn yr emporiwm bwyd a'r caffi bendigedig hwn. Yn Siop y Fferm cewch weld llawer o'r bwyd go iawn sy'n cael ei gynhyrchu yng Ngogledd Cymru ac yn Swydd Gaer gerllaw. Mae Siop y Fferm yn cynnig mwy o lawer na phrofiad siopa bwyd - mae'n brofiad i'r pum synnwyr, ac i'r teulu i gyd.
Caffi'r Siop Goginio
Hyd yn oed os nad ydych chi'n bwriadu siopa, mynnwch ymweld â'r Caffi. Mae ein bwydlen dymhorol yn cynnig cyfle ichi roi cynnig ar rywfaint o'n cynnyrch lleol bendigedig.nbsp; Mae ein brecwast yn ddechrau perffaith ar gyfer diwrnod diog, a'n cinio'n esgus da i ddianc rhag eich desg! Ac os yw'r tywydd yn braf, ewch â'ch coffi allan i'r teras a mwynhau'r byd o'ch cwmpas.
cysylltu
Siop Fferm Ystâd Pen-ar-lâg
Ffordd Caer
Hawarden
Sir y Fflint
Ffôn: 01244 533442
Ffacs: 01244 533442
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Nodyn: Ni chodir tâl am fynd i mewn i'r Ystâd.
Oriau Agor
Siop Fferm Ystâd Pen-ar-lâg
11 Mawrth - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09:00 - 18:00 | |||||||
09:00 - 17:30 | |||||||
10:00 - 16:00 |
Nodyn: Fe all yr amserau newid
categori
Rhan o: Teulu, Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Bwyd a diod categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Siop Fferm Ystâd Pen-ar-lâg?
Mae bws lleol yn mynd o Bentref Penarlâg i'r Ystâd.
Cludiant Cyhoeddus
Trên: Pentref Penarlâg