Atyniadau Gogledd Cymru

Llangollen Railway

Rheilffordd Llangollen | Gweld Manylion Atyniad

Llangollen Railway

disgrifiad

Rheilffordd Dreftadaeth Stêm yw RHEILFFORDD LLANGOLLEN sy'n dechrau yng Ngorsaf Llangollen wrth ymyl y Bont dros y Ddyfrdwy yn y dref. Yna, mae'n dilyn llwybr Afon Ddyfrdwy am 7 ½ milltir i fyny at bentref Carrog.

Mae'r Rheilffordd yn glynu'n glos at lan yr afon ar hyd y rhan fwyaf o'i thaith. Ar y lan ogleddol yng Ngorsaf Llangollen, croesir y Bont dros y Ddyfrdwy i gyrraedd y lan ddeheuol, tua milltir i fyny'r afon o Langollen.
Yna, mae'r lein yn dringo'n serth i gyrraedd Gorsaf y Berwyn, ac mae'n dal i ddringo wedyn, drwy Dwnnel y Berwyn (1/3 milltir) i Orsaf Glannau Dyfrdwy - lle bydd y trên yn aros os gwnaiff rhywun gais. O'r fan hon, bydd y lein yn dringo'n araf am 2 filltir i gyrraedd Gorsaf a phentref Glyndyfrdwy, ac wedyn, yn dringo'n araf eto i Garrog.

Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y lein am ddwy filltir a hanner arall, i Dref Corwen, lle y codir gorsaf newydd.

cysylltu

Rheilffordd Llangollen
Yr Orsaf
Ffordd Abaty
Llangollen
Sir Ddinbych

Ffôn: 01978 860951

E-Bost | Gwefan

prisiau

Nodyn: Pennir y pris sylfaenol a dibynnu ar nifer y camau a deithir - Mae rhagor o fanylion ar ein gwefan.

categori

Rhan o: Cychod, Trenau a Thramiau, Teulu, Diwylliant a Threftadaeth categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Rheilffordd Llangollen?

Mae'n agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ar lannau Afon Dyfrdwy.

Hawdd ei gyrraedd o Lerpwl:-
(Ar yr M53/A55/A483 i Riwabon/ wedyn yr A539 drwy Acrefair i Langollen)

Neu o Fanceinion:-
(Ar yr M56/M53/A55/A483 i Riwabon ac wedyn yr A539 drwy Acrefair i Langollen)
Neu o Firmingham:-
(Ar yr M6/M54/A5 i'r Waun ac wedyn ar yr A5 i Langollen)

rhywle i aros?

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Fferm Organig Rhug

Fferm Organig Rhug

Gororau Gogledd Cymru

mwy

tua. 8 milltirs o
Rheilffordd Llangollen

Siop Fferm Ystâd Pen-ar-lâg

Siop Fferm Ystâd Pen-ar-lâg

Gororau Gogledd Cymru

mwy

tua. 22 milltirs o
Rheilffordd Llangollen