Abaty Glyn y Groes/Valle Crucis | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae naws arbennig i adfeilion Glyn y Groes (Valle Crucis) sy'n llechu yn y caeau gleision o dan lechweddau serth bryniau Llangollen. Yn y canol oesoedd, roedd y fan hon yn llecyn diarffordd - lle delfrydol i'r mynachod Sistersaidd a oedd yn byw yn ôl rheolau llym ac yn chwilio'n fwriadol am fannau gwyllt ac unig. Sefydlwyd yr abaty yn y 13eg ganrif (1201) ac mae wedi llwyddo i oroesi ymosodiadau amser ac esgeulustod yn well na llawer o'i gyfoedion.
Mae llawer o'i nodweddion gwreiddiol i'w gweld o hyd, gan gynnwys porth cerfiedig cain y tu blaen gorllewinol, y ffenestr rhosyn ac arysgrifau o'r 14eg ganrif, yn ogystal â phen dwyreiniol yr abaty sydd wedi para'n dda a'r cabidyldy hyfryd â'i do cromennog trawiadol.
cysylltu
Abaty Glyn y Groes/Valle Crucis
Llantysilio
Llangollen
Sir Ddinbych
Ffôn: 01978 860326
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £2.60
Hyn: £2.25
Myfyrwyr: £2.25
Plant:£2.25
Nodyn: Tocyn teulu - £7.45
Oriau Agor
Abaty Glyn y Groes/Valle Crucis
27 Mawrth - 31 Hydref
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
categori
Rhan o: Diwylliant a Threftadaeth categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Abaty Glyn y Groes/Valle Crucis?
B5103 o'r A5, i'r gorllewin o Langollen, neu'r A542 o Ruthun.
Cludiant Cyhoeddus
Llangollen