Clwyd Theatr Cymru | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Un o brif gwmnïau cynhyrchu dramâu Cymru yw Clwyd Theatr Cymru; ac fe adeiladwyd y theatr yn wreiddiol yn Ganolfan Gelfyddydau Ranbarthol.
Dyma gartref cwmni cynhyrchu mawr ei fri sydd hefyd yn cyflwyno llawer o'i waith drwy deithio drwy Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Bydd y cwmni'n cynhyrchu gwaith yn Saesneg yn bennaf, ond rhywfaint yn Gymraeg hefyd. Mae ganddo adran Theatr i Bobl Ifanc sy'n defnyddio'r un perfformwyr, yr un technegwyr a'r un staff creadigol i sicrhau'r un gwerthoedd cynhyrchu ac a arddelir gan gynnyrch y brif ffrwd. Bydd y theatr hefyd yn croesawu amrywiaeth o berfformiadau teithiol yn ddrama, yn ddawns, ac yn gerddoriaeth a hefyd Gwyl Gymuned yn yr Haf. Cynhelir oddeutu 900 o berfformiadau cyhoeddus y flwyddyn..
Gweledigaeth hen Gyngor Sir y Fflint a'i Brif Weithredwr Haydn Rees oedd Theatr Clwyd ac fe'i hagorwyd yn 1976. Mae'r adeilad tua milltir o ganol tref yr Wyddgrug yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n cynnwys pum canolfan perfformio: Theatr Anthony Hopkins (580 o seddi), Theatr Emlyn Williams (250 o seddi), Stiwdio 2 (120), Ystafell Clwyd sy'n ystafell amlbwrpas (hyd at 300) a Sinema (120). Mae siop lyfrau, bwyty a thair oriel gelf yno hefyd.
cysylltu
Clwyd Theatr Cymru
Mold
Sir y Fflint:
Ffôn: 0845 330 3565
Ffacs: 01352 701 529
VAQAS
Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
Nodyn: Mae'n amrywio a dibynnu ar y cynhyrchiad/digwyddiad.
Oriau Agor
Clwyd Theatr Cymru
1 Ionawr - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 20:00 |
Nodyn: holwch y swyddfa docynnau am drefniadau'r Sul/Gwyliau Banc ac ati
categori
Rhan o: Teulu, Diwylliant a Threftadaeth, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Clwyd Theatr Cymru?
Gadewch yr A55 yn Llaneurgain, Cyffordd 33 a dilynwch yr arwyddion am yr Wyddgrug.