Rheilffordd Fach y Rhyl | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Agorodd ein rheilffordd gyntaf ar 1af Mai 1911, ac erbyn hyn dyma lein fach hynaf Prydain. Mae llawer o'r rheini sy'n teithio arni heddiw wedi teithio arni'n blant ac yn awr maen nhw'n dod â'r genhedlaeth nesaf i rannu'r profiad. Adeiladwyd ein trenau stêm yn y Rhyl ac maen nhw wedi bod yn tynnu teithwyr o gwmpas y Marine Lake ers pedwar ugain o flynyddoedd!
Fe all ymwelwyr yr oes hon fwynhau cyfleusterau'r adeilad newydd ‘Yr Orsaf Ganolog’, a dysgu am hanes y rheilffordd drwy wylio'n cyflwyniad clywedol. Mae'r amgueddfa, y siop a'r toiledau ar agor bob dydd pan fydd y trenau'n mynd.
cysylltu
Rheilffordd Fach y Rhyl
10 Ffordd Wellington
Cilnant
Mold
Sir y Fflint:
Ffôn: 01352 759109
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £2.00
Plant (hyd at 14 oed):£1.00
Oriau Agor
Rheilffordd Fach y Rhyl
Nodyn: BOB DYDD SADWRN A DYDD SUL O 22 MAWRTH TAN 28 MEDI - BOB DYDD O 19 GORFFENNAF TAN 31 AWST - AR AGOR AR WYLIAU BANC
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Cychod, Trenau a Thramiau categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Rheilffordd Fach y Rhyl?
Mae Marine Lake y Rhyl yn agos at y ffordd dros yr afon ar ben gorllewinol Wellington Road.
Bydd bysiau'n mynd heibio'n rheolaidd iawn ar Lwybr 12 Arriva Cymru (Gorsaf Reilffordd y Rhyl i Landudno)
Mae digon o le i barcio am ddim gerllaw.