Saffari Moduro | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Byddwn yn cynnig digwyddiadau hwyliog sy'n siwr o roi gwefr ichi, eich cymell, creu argraff arnoch a'ch ysbrydoli. Fel y'i gwelwyd ar: - Holiday, Top Gear, Blue Peter ar y BBC. - Wish You Were Here, Motor Show, Good Morning ar ITV, Dyma rai o’r Dewisiadau sydd ar gael: Gyrru 4X4 Oddi ar y Ffordd, Cwads, Cartiau Rali ar y Gwair, Saethyddiaeth, Saethu at Darged efo Reiffl, Gemau Adeiladu Tîm .... a llawer llawer mwy! Dyma rai o'n cleientiaid:- Unigolion a Theuluoedd, Cleientiaid Corfforaethol gan gynnwys Saatchi &Saatchi, Mercedes-Benz a Toyota. Mae gennym rywbeth at ddant pawb: - Tocyn Rhodd neu Ddiwrnod i'r Brenin - Tocyn Grwp neu Ddiwrnod Corfforaethol- Digwyddiad o fewn cyllideb benodol neu "swae" wedi'i theilwra'n arbennig ar thema benodol, mae gennym yr arbenigedd a'r profiad i sicrhau y byddwch chi a'ch gwesteion yn gallu ymlacio a mwynhau'r diwrnod. Dyma rai o'r pethau y gallwch eu dewis: Â Sesiwn 30 munud i roi gwefr i un person neu i deulu. Saethyddiaeth / Saethu at Darged; 4X4 Oddi ar y Ffordd a Chwads
cysylltu
Saffari Moduro
230 Elm Road
Redwither, Parc Busnes Canolog
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 754 533
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £39.95
Grwpiau *
Oedolion: £9.99
* Nifer lleiaf mewn grwp: 1
Nodyn: O £10 i dros £1,000. Rhaid trefnu o flaen llaw. PLANT AM DDIM Tocyn Rhodd Ar-lein yn www.motor-safari.co.uk
Oriau Agor
Saffari Moduro
2 Ionawr - 24 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09:30 - 17:30 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Mae'n hanfodol trefnu o flaen llaw. Ar agor drwy'r flwyddyn Mynediad Olaf 3pm
categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Saffari Moduro?
Rhoddir y cyfarwyddiadau ichi wrth ichi drefnu. Gallwn eich cyfarfod mewn gwahanol westai yn yr ardal e.e.The Grosvenor Pulford Hotel, Ramada Plaza Wrecsam, White Waters Hotel Llangollen.
Cludiant Cyhoeddus
Wrecsam