Canolfan Denis Ranbarthol Gogledd Cymru | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Canolfan Denis Dan Do ac Awyr Agored - talu a chwarae - ar agor i'r cyhoedd gyda 6 o gyrtiau dan do a 10 o gyrtiau awyr agored (mae 4 o'r cyrtiau'n eiddo i Glwb Tenis Lawnt Wrecsam ac mae angen bod yn aelod i chwarae ar y rhain). Gellir gwneud trefniant preifat i logi cwrt hyd at 6 diwrnod o flaen llaw.
Mae hyfforddiant tenis ar gael hefyd i grwpiau ac i unigolion o bob oed a gallu. Cynhelir cyrsiau tenis-bach i blant 3 i 10 oed, ac yna mae modd camu ymlaen i'r rhaglenni Datblygu ac Uwch sydd hefyd ar gael o dan arweiniad hyfforddwyr LTA o'r radd flaenaf yn Academi Wrecsam. Mae'r Academi hefyd yn cynnig rhaglenni tenis rhan-amser ac amser llawn i blant ac oedolion.
Bydd y Ganolfan yn cynnal sawl twrnamaint yn ystod y flwyddyn gan gynnwys twrnameintiau i ysgolion a digwyddiadau tenis lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ffoniwch i gael gwybod rhagor.
cysylltu
Canolfan Denis Ranbarthol Gogledd Cymru
Ffordd Plas Coch
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 265 260
Ffacs: 01978 362 730
prisiau
Nodyn: Talu a Chwarae - Tenis Dan Do ac yn yr Awyr Agored - does dim rhaid bod yn aelod - ar agor i'r cyhoedd. Gellir trefnu cwrt hyd at 6 diwrnod o flaen llaw ac mae'r pris ar gyfer defnyddio cwrt am awr. £5 ar gyfer cyrsiau awyr agored a rhwng £5 a £14 am gyrtiau dan do. Mae gostyngiad ar gael ar adegau arbennig i'r sawl sydd â Cherdyn Defnyddiwr Rheolaidd. Mae hwnnw'n costio £2 i oedolion a £1 i chwaraewyr iau.
Oriau Agor
Canolfan Denis Ranbarthol Gogledd Cymru
2 Ionawr - 24 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
07:00 - 22:00 | |||||||
07:00 - 21:00 | |||||||
08:00 - 21:00 | |||||||
09:00 - 21:00 |
Nodyn: Ar agor drwy'r flwyddyn Ar gau ddydd Nadolig ac ar ddydd San Steffan. Oriau agor yn fyrrach ar Wyliau Banc ac yn ystod wythnos y Nadolig / Calan. Bydd Gweithgareddau Gwyliau i Blant ar gael yn ystod y rhan fwyaf o'r gwyliau ysgol. Cysylltwch â'r dderbynfa ar 01978 265260 i gael gwybod rhagor.
categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Denis Ranbarthol Gogledd Cymru?
*Oddi ar yr A483:
Gadewch y ffordd drwy ddilyn arwyddion Wrecsam a'r Wyddgrug A541 nes ichi gyrraedd cylchfan.
O Gaer: Cymerwch y ffordd ymadael 1af, neu o Groesoswallt: Cymerwch yr 4edd ffordd ymadael.
Yna trowch i'r chwith.
*Oddi ar yr A541 y Wyddgrug:
Dilynwch y ffordd ymadael i gyfeiriad Wrecsam nes ichi gyrraedd y gylchfan. Cymerwch yr 2il ffordd ymadael.
*O Ganol y Dref: Ewch heibio i'r Cae Ras tua'r A483. Trowch i'r dde ar y gylchfan (3edd ffordd ymadael). Wrth ichi ddilyn unrhyw un o'r cyfarwyddiadau uchod, ewch yn syth ar draws y gylchfan nesaf (peidiwch â throi i'r chwith am Barc Manwerthu Plas Coch ), mae'r Ganolfan Denis nesa ar y dde.
Cludiant Cyhoeddus
Gorsaf Fysiau Wrecsam / Gorsaf Drenau Gyffredinol Wrecsam