Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madog | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Ffitrwydd a hwyl i'r teulu oll!
Canolfan hamdden ranbarthol sy'n denu defnyddwyr ac ymwelwyr o bob cwr o ogledd-orllewin Lloegr, Swydd Amwythig a gogledd Cymru.
Mae Plas Madog yn enwog am ei Bwll Hamdden 'Y Lagwn Trofannol'. Dyma'r lle perffaith i'r teulu gael HWYL. Cewch gerdded ar yr ewyn, dringo ar gefn y crocodil, llithro i lawr yr eliffant a'r neidr neu chwarae yn y tonnau.
Mae'r 'Lagwn' yn ddelfrydol i deuluoedd sydd â phlant ifanc gan eu bod yn gallu chwarae yn y dwr bas ar y 'traeth'. Mae'n lle bendigedig i ddysgu nofio a darperir gwersi ar bob lefel gan ein staff hyfforddedig.
Mae aerobeg dwr a woglo ar gael i'r oedolion hynny sy'n chwilio am ymarfer aerobig sydd fymryn yn llai blinedig.
Canolfan amlbwrpas yw'r Neuadd Chwaraeona dyma le bendigedig i bopeth o gampau'r dwyrain a hyfforddiant cylched i weithgareddau i ferched; ffitrwydd a thenis bwrdd. Dau gwrt sboncen, 4 cwrt badminton, pêl-droed dan do– mae'r cyfan ar gael yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madog.
cysylltu
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madog
Acrefair
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 821 600
Ffacs: 01978 824 633
prisiau
Nodyn: Prisiau ar gyfer y pwll hamdden yw'r uchod. Mae prisiau gweithgareddau i'w gweld ar ein gwefan.
Oriau Agor
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madog
2 Ionawr - 24 Rhagfyr
Nodyn: 7 niwrnod yr wythnos, ffoniwch i gael gwybod rhagor.
categori
Rhan o: Teulu categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madog?
Mae'n cael ei arwyddo oddi ar yr A483 i gyfeiriad Llangollen ar yr A539, ym mhentref Acrefair