Y Rhwydwaith Eglwys Agored a'r Llwybr Darganfod | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Dewch i archwilio a phrofi taith i ddarganfod hanes, pensaernïaeth a'r ffydd y mae grwp o eglwysi agored wedi'i dangos wrth gynnig croeso cynnes i ymwelwyr a phererinion am ganrifoedd lawer.
Dewch i ddarganfod chwedlau a hanesion pentrefi a threfi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y Llwybr Darganfod. Ers 7,000 o flynyddoedd a rhagor, drwy gyfnod goresgyniad y Sacsoniaid, y Normaniaid a'r Canol Oesoedd, calon y mannau hyn oedd eu haddoldai. Yn yr un eglwys ar bymtheg sydd ar y Llwybr, cewch astudio celf a phensaernïaeth, gwleidyddiaeth a rhyfel, herodraeth a natur, a'r cyfan wedi'u pecynnu'n hwylus mewn adeiladau unigryw sy'n llawn trysorau yng nghanol mwynder cefn gwlad a chynhesrwydd y pentrefi. Dyma ichi feicrocosm o hanes Cymru yn un o dirweddau mwynaf Cymru.
cysylltu
Y Rhwydwaith Eglwys Agored a'r Llwybr Darganfod
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 292 015
Ffacs: 01978 292 467
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Nodyn: Am ddim
categori
Rhan o: Hanesyddol, Diwylliant a Threftadaeth categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Y Rhwydwaith Eglwys Agored a'r Llwybr Darganfod?
Mae 16 o Eglwysi yn y rhwydwaith. Mae manylion y lleoliad ar y we, neu cysylltwch â'r Ganolfan Groeso.