Parc Gwledig Ty Mawr | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae holl hwyl y fferm ar gael yn Nhy Mawr a hynny yng nghanol ysblander Dyffryn Afon Ddyfrdwy. Cewch gyfarfod â llu o anifeiliaid yn Nhy Mawr megis asynnod, moch a geifr. Fe gewch chi hyd yn oed fwydo ein cywion buarth a'n hwyaid neu edmygu Lawrence y Lama sy'n gwarchod ein defaid rhag llwynogod!!
Yn Nhy Mawr, fyddwn ni ddim yn defnyddio cemegau na phlaladdwyr ar y tir. Dyna pam mae gennym gynifer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt, ac yn yr haf, bydd ein dolydd gwair traddodiadol yn gyforiog o liw. Beth am fynd am dro bach braf i lawr at yr afon, eistedd ac ymlacio. Efallai y gwelwch chi eog yn llamu!
Mae Ty Mawr mewn man hyfryd o dan draphont ddramatig Cefn ar lannau'r Ddyfrdwy ac yma mae rhai o olygfeydd gorau'r ardal .
cysylltu
Parc Gwledig Ty Mawr
Lôn Cae Gwilym
Cefn Mawr
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 822 780
Ffacs: 01978 823 410
prisiau
Nodyn: Teithiau tywys drwy drefnu amser - Partïon Ysgolion drwy drefniant
Oriau Agor
Parc Gwledig Ty Mawr
20 Mawrth - 31 Mawrth
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:30 - 16:30 |
Nodyn: Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Dim ond ar y penwythnos y bydd y Ganolfan Ymwelwyr ar agor.
categori
Rhan o: Parciau a Gerddi, Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Teulu categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Parc Gwledig Ty Mawr?
Mae'r parc bum milltir i'r de o Wrecsam ym mhentref Cefn Mawr. Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn am y Parc Gwledig ar y ffordd sy'n gadael yr A483 am Langollen/Rhiwabon.