Canolfan Tryweryn, Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Ers ei hagor yn 1986, mae Canolfan Tryweryn wedi tyfu'n ganolfan ragoriaeth sy'n cynnig rafftio dwr gwyn ar hyd un o'r llwybrau rafftio dwr gwyn masnachol hwyaf a serthaf yn y Deyrnas Unedig.
Afon serth a chreigiog yw afon Tryweryn yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae rhuthr ei dyfroedd byrlymus yn eich cludo ar hyd y cwrs llawn cyffro ac adrenalin. Cewch ddewis sesiwn awr sy'n cynnwys dwy daith i lawr yr afon mewn rafft 14 troedfedd neu sesiwn 2 awr sy'n cynnwys 4 taith.
Mae golygfeydd syfrdanol yr ardal yn encil rhyfeddol, nid dim ond i'r rheini sy'n frwd dros gampau dwr, ond i bawb. Cewch grwydro ar hyd Llwybr Tryweryn, y llwybr natur sy'n dilyn glan yr afon, neu ymlacio a gwylio'r antur ar yr afon o'r caffi ar y lan.
cysylltu
Canolfan Tryweryn, Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn
Frongoch
Bala
Gwynedd
Ffôn: 01678 521083
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £32.00
Hyn: £32.00
Myfyrwyr: £32.00
Plant (hyd at 12 oed):£32.00
Nodyn: Mae'r prisiau'n dechrau o £32 y pen sy'n cynnwys 2 daith i lawr yr afon sy'n para tua awr. Bydd sesiwn 2 awr sy'n cynnwys 4 taith i lawr yr afon yn costio £60 y pen. Neu, gellir trefnu sesiwn grwp i 4-7 o bobl mewn rafft am 2 awr ac mae hynny'n costio rhwng £243 a £320.
Oriau Agor
Canolfan Tryweryn, Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn
1 Rhagfyr - 17 Hydref
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09:00 - 16:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ||
08:30 - 18:30 | ![]() | ![]() |
Nodyn: Bydd yr oriau agor yn dibynnu ar lefelau'r dwr. Bydd y ganolfan ar gau am 6 wythnos rhwng 18 Hydref ac 1 Rhagfyr.
categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Tryweryn, Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn?
Mae Canolfan Tryweryn yn Eryri ac ar yr A4212 (o'r Bala i Drawsfynydd) rhwng pentref Frongoch a Llyn Celyn.
O'r de, dilynwch yr M54, A5 a'r A494 i'r Bala, o'r gogledd, dilynwch yr M56 ac wedyn yr A494 i'r Bala. Yn y Bala, trowch i'r dde i'r A4212 tuag at Drawsfynydd. Gyrrwch 3 milltir i bentref Frongoch; ac rydym filltir heibio i Frongoch (chwiliwch am yr Arwydd Rafftio a Chanwio).
Cludiant Cyhoeddus
Mae'r prif orsafoedd rheilffordd agosaf yng Nghyffordd Llandudno, Caer, Wrecsam, Aberystwyth a Bangor sydd oddeutu 1 -1/2 awr i ffyrdd