Get Wet The Adventure Company | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Yn Get Wet, cynigir cyfle ichi ddringo ar gwrs rhaffau uchaf y Deyrnas Unedig! Dewch i ddringo drwy ein Pinwydd Douglas anferth i gyrraedd y llwyfan uchaf sy'n 21m uwchben y ddaear.
Mae Get Wet hefyd yn cynnal sesiynau peli paent ddwywaith y dydd. Beth am ddod â'ch ffrindiau a'ch teulu am sesiwn peli paent hwyliog? Cewch ddatrys unrhyw ddadl wrth ichi symud o gwmpas ein 3 pharth peli paent.
cysylltu
Get Wet The Adventure Company
Bala
Gwynedd/Sir Ddinbych
Ffôn: 07909768950
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £23.00
Plant (hyd at 17 oed):£20.00
Nodyn: Cost sesiynau peli paent yw £15 y pen sy'n cynnwys 200 o beli yr un am ddim.
categori
Rhan o: Antur categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Get Wet The Adventure Company?
O'r Bala, dilynwch y B4401 ac ewch i gyfeiriad Llandrillo. Mae Get Wet ar ochr dde'r B4401 rhwng pentref Llandderfel a phentref Llandrillo.
Os ydych chi'n teithio o'r A5, bydd angen ichi ymuno â'r A5 yng Nghorwen.