Ty Mawr Wybrnant | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Profiad go iawn o deithio drwy amser, i ffermdy Cymreig diarffordd 500 oed yn ei gwm hudolus ei hun yn yr ucheldir. Yma y ganwyd yr Esgob William Morgan, y cyntaf i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r ty’n gartref i gasgliad nodedig o Feiblau o bob cwr o’r byd. Cewch deithio ar hyd y lonydd culion drwy olygfeydd ysblennydd cefn gwlad i gyrraedd y ty. Mae'n dipyn o antur ac yn werth yr ymdrech. Mae Ty Mawr Wybrnant yn hafan o lonyddwch mewn byd prysur ac mae'r adeilad wedi’i adfer yn ofalus er mwyn adlewyrchu bywyd mewn oes fwy hamddenol.
cysylltu
Ty Mawr Wybrnant
Penmachno
Betws-y-Coed
Conwy:
Ffôn: 01690 760213
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £3.00
Plant:£1.50
Grwpiau *
Oedolion: £2.50
Plant:£1.00
* Nifer lleiaf mewn grwp: 0
Nodyn: Cost tocyn teulu yw £7.50
Oriau Agor
Ty Mawr Wybrnant
20 Mawrth - 20 Medi
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
12:00 - 17:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
2 Hydref - 2 Tachwedd
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
12:00 - 16:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Ar agor Lluniau Gwyl Banc. Mynediad olaf 30 mun cyn cau.
categori
Rhan o: Parciau a Gerddi, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol categori