Atyniadau Gogledd Cymru

New Heights Microlight School

Ysgol Meicroleit New Heights | Gweld Manylion Atyniad

disgrifiad

Beth am roi cynnig ar daith blasu 30 neu 60 munud! Mae hedfan meicroleit yn rhoi gwefr hedfan go iawn ichi. Dyma'r peth agosaf at fod yn aderyn - yn wyneb y gwynt ac yn gallu gweld i bob cyfeiriad. Gallwn ddarparu'r holl offer angenrheidiol, o bâr o fenig i awyren ail-law. Mae Teithiau Blasu ar gael sy'n eich cludo dros fynydd uchaf Cymru (os yw'r tywydd yn caniatáu).

Cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd Parc Cenedlaethol Eryri a'r Arfordir. Cyn gynted ag y byddwn wedi codi oddi ar y llawr, cewch afael yn llyw'r awyren a theimlo'r ias a gaiff peilot wrth hedfan. Felly dewch i fwynhau profiad oes.... Ffoniwch Keith, Ein Prif Hyfforddwr Hedfan yn awr ar 07771 881180.

Tocynnau Rhodd - mae gennym sawl math gan gynnwys  'Efydd'...taith hanner awr o'ch dewis  - 'Aur'.... taith hwy gan gynnwys hamper o ginio cartref.  Gallwn hefyd ffilmio'r daith ichi ei dangos i'ch ffrindiau ar You Tube.  Ffoniwch i gael gwybod rhagor ar gyfer pen-blwydd neu ddathliad arbennig  neu ddiwrnod i'r teulu.

 

 

cysylltu

Ysgol Meicroleit New Heights
Maes Awyr Caernarfon
Dinas Dinlle
Caernarfon
Gwynedd

Ffôn: 07771 881180

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Toiledau
  • Partïon ysgol
  • Parcio
  • Aiop Anrhegion
  • Partïon Hyfforddwr
  • Arlwyo
  • Datganiad Mynediad

prisiau

Nodyn: Teithiau hedfan gyda hyfforddwr fel a ganlyn: 30 mun £55: 45 mun £75: 60 mun £95: Taith hedfan "Dambuster" arbennig dros Barc Cenedlaethol Eryri: 1awr 15 mun am £120 a hynny ar y penwythnos yn y bore yn unig neu gyda'r nos ganol wythnos. BYDD POB TAITH YN AMODOL AR YMARFERION YR RAF A'R TYWYDD

Oriau Agor

Ysgol Meicroleit New Heights
1 Ionawr - 31 Rhagfyr

Nodyn: Bydd pob taith yn mynd rhwng gwawr a chyfnos ar yr amod bod y tywydd yn caniatáu.

categori

Rhan o: Teulu, Antur categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Ysgol Meicroleit New Heights?

O Ganol Tref Caernarfon
Mae Maes Awyr Caernarfon 6 milltir o ganol tref Caernarfon ar ffordd yr A499 i Bwllheli. Trowch i'r dde ar ôl Coleg Glynllifon, dilynwch yr arwyddion i Ddinas Dinlle a Maes Awyr Caernarfon Dilynwch y ffordd sy'n gyfochrog â'r traeth, ac mae'r Byd Awyr ym mhen draw'r traeth. O Bwllheli
Mae Byd Awyr Caernarfon tua 15 milltir o Bwllheli. Dilynwch yr A499 i gyfeiriad Caernarfon, gan droi i'r chwith wrth yr arwydd i Faes Awyr Caernarfon a Dinas Dinlle.

Cludiant Cyhoeddus

Bysiau'n mynd heibio tu allan. Mae'r brif orsaf reilffordd ym Mangor.

rhywle i aros?

agosaf digwyddiadau

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Caffi Caban

Caffi Caban

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 13 milltirs o
Ysgol Meicroleit New Heights

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 14 milltirs o
Ysgol Meicroleit New Heights