Atyniadau Gogledd Cymru

Redline Indoor Karting

Cartio Dan Do Redline | Gweld Manylion Atyniad

Redline Indoor Karting Snowdonia

disgrifiad

Cartio Dan Do Redline yw un o'r ychydig Ganolfannau Cartio Dan Do annibynnol yng Nghymru lle y gallwch chi fwynhau safonau gorau am brisiau is. Yng Nghaernarfon, Gwynedd, gogledd Cymru y mae Cartio Dan Do Redline, a hynny mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae o fewn cyrraedd rhwydd i Ynys Môn, Conwy a phob rhan arall o ogledd a chanolbarth Cymru a gogledd orllewin Lloegr. Cartio dan do yw un o'r campau adrenalin sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu, neu hyd yn oed eich cydweithwyr, a'u herio i ras wirioneddol gyffrous! Mae cartio'n aml yn cael ei weld yn garreg gamu i'r campau moduro uwch a drutach - Efallai mai chi fydd y Lewis Hamilton nesaf! Mae wedi'i hachredu'n llawn gan yr NKA. Darperir ar gyfer pob math o grwpiau ac unigolion, o ddechreuwyr pur i ddigwyddiadau corfforaethol - a'r cyfan o dan oruchwyliaeth arbenigol ein staff sydd wedi'u hyfforddi'n drwyadl. Mae'r pecynnau'n amrywio o sesiynau blasu i hyfforddiant cylchffordd i unigolion i ddigwyddiadau Grand Prix llawn sy'n cynnwys 'Fizz' dathlu naill ai i oedolion neu i blant. Croesewir gwylwyr a byddai ein tîm ymroddedig yn falch o ddangos y ganolfan ichi a thrafod eich gofynion, felly croeso i chi alw heibio'n fuan.

cysylltu

Cartio Dan Do Redline
Ffordd Llanberis
Parth 6, Ystâd Ddiwydiannol Cibyn
Caernarfon
Gwynedd

Ffôn: 01286 66 95 15

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Toiledau
  • Partïon ysgol
  • Ardal chwarae
  • Picnic Area
  • Parcio
  • Ystafell Addysg
  • Partïon Hyfforddwr
  • Arlwyo
  • Pob Tywydd
  • Datganiad Mynediad

Consortiwm

  • NWT

prisiau

cyffredinol

Oedolion: £10.00
Hyn: £10.00
Myfyrwyr: £10.00
Plant:£10.00

Nodyn: Mae'r prisiau uchod ar gyfer Cyrraedd a Gyrru (10 munud ar y trac). Cynnig Arbennig ar hyn o bryd - Sesiwn Blasu DIM OND £6.00 ! Dewisiadau eraill: Cyrraedd a Rasio (15 munud) £13 y pen Cynnig TT Arbennig(20 munud) ar gael 12-2pm a 5-7pm £17 y pen Grand Prix Bach £24 y pen Grand Prix (2 awr, 12 gyrrwr o leiaf) £33 y pen Dycnwch £22 y pen Sesiwn i lai na 6 gyrrwr £26 y pen Fe'ch cynghorir i drefnu o flaen llaw, felly ffoniwch i holi pa rasys sydd ar gael. Rhaid i bawb sydd am rasio gyrraedd 15 munud cyn rasio er mwyn mynd i'r sesiwn briffio. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib y caiff y trefniant ei ddiddymu. Rhaid i bawb sy'n gyrru fod yn 8 oed neu'n hyn ac yn 135cm o daldra.

Oriau Agor

1 Ionawr - 31 Rhagfyr
  Ll Ma Me Ia Gw Sa Su
10:00 - 20:00YesYesYesYesYes
10:00 - 19:00YesYes

Nodyn: O ddydd Mawrth tan ddydd Gwener 10.00 tan 20.00. Sad a Sul 10.00 tan 19.00. Ar gau dydd Nadolig a dydd Calan.

categori

Rhan o: Teulu, Antur categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Cartio Dan Do Redline?

Mae Cartio Dan Do Redline ger Caernarfon ar briffordd yr A4086 i Lanberis. Dyma unig ganolfan Cartio dan do'r rhanbarth. Dyma'r lleoliad pob tywydd perffaith yn Eryri. Cartiau i Oedolion a Chadets. Mae'r ganolfan gelfyddydau newydd sbon o'r radd flaenaf ac fe allwch chi a'ch ffrindiau neu'ch cydweithwyr roi'ch sgiliau ar brawf yn erbyn eich gilydd ar y trac heriol.

Cludiant Cyhoeddus

Caernarfon

rhywle i aros?

agosaf digwyddiadau

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Caffi Caban

Caffi Caban

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 10 milltirs o
Cartio Dan Do Redline

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 10 milltirs o
Cartio Dan Do Redline