Rheilffordd Ucheldir Cymru | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Lein fach stêm newyddaf Eryri yw Rheilffordd Ucheldir Cymru a dyma lein dreftadaeth hwya'r Deyrnas Unedig sy'n ymestyn am 25 milltir. Bydd trenau'n cychwyn
o dan waliau'r castell yng Nghaernarfon ac yn teithio drwy Ryd Ddu a Beddgelert yng
nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, drwy ysblander
Bwlch Aberglaslyn ac ymlaen i Borthmadog gan gysylltu â Rheilffordd fyd-enwog
Ffestiniog. Taith un ffordd 1 awr a 10 munud i Ryd Ddu, 2
awr a 26 i Borthmadog. Mae'n beth doeth iawn trefnu'ch lle o flaen llaw.
Mae'n bosib prynu tocyn un ffordd a chyfuno tocyn trên a bws.
Un o 'Drenau Bach Arbennig Cymru'.
cysylltu
Rheilffordd Ucheldir Cymru
Ffordd Santes Helen
Caernarfon
Gwynedd
Ffôn: 01766 516000
Ffacs: 01766 516006
VAQAS

Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £25.00
Hyn: £22.50
Plant (hyd at 16 oed):£12.50
Nodyn: Mae'r prisiau uchod ar gyfer tocyn crwydro dwy ffordd. Caiff plentyn deithio am ddim gyda phob oedolyn neu oedolyn â thocyn teithio'n rhatach sy'n talu'r pris dwy ffordd llawn. Bydd partïon sy'n cynnwys 20 neu fwy (10 os ydynt yn bobl anabl) yn gymwys i gael gostyngiad. I gael gwybod rhagor, ffoniwch 01766 516024.
categori
Rhan o: Teulu, Diwylliant a Threftadaeth, Cychod, Trenau a Thramiau categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Rheilffordd Ucheldir Cymru?
Mae Caernarfon 20 munud oddi ar wibffordd yr A55; sy'n golygu ei bod yn hawdd ei chyrraedd o Ynys Môn ac arfordir y Gogledd. Mae 3 maes parcio cyhoeddus mawr o fewn pellter cerdded rhwydd i'r orsaf. Hefyd, mae maes parcio bychan yn ein gorsaf yn Ffordd Santes Helen.
Cludiant Cyhoeddus
Bws - Canol tref Caernarfon / Trên – Bangor