Atyniadau Gogledd Cymru

Llanberis Lake Railway

Rheilffordd Llyn Llanberis | Gweld Manylion Atyniad

Llanberis Lake Railway

disgrifiad

Camwch yn ôl i'r gorffennol gan fynd am dro ar y trên bach stêm hudolus hwn i fwynhau golygfeydd ysblennydd Eryri. Wrth ichi deithio'r 5 milltir yno ac yn ôl, fe groeswch chi afonydd a nentydd a mynd heibio i Gastell hanesyddol Dolbadarn, cyn dilyn llwybr hen reilffordd y chwareli drwy Barc Gwledig Padarn ac ar hyd prydferthwch glannau Llyn Padarn. Wrth iddo ddychwelyd, bydd y trên yn aros yng Nghei Llydan, sy'n gyfle delfrydol ichi gael picnic bach. Siopau rhoddion a chaffi; a llefydd i gadeiriau olwyn ar y trenau. Un o "Drenau Bach Arbennig Cymru".

cysylltu

Rheilffordd Llyn Llanberis
Llanberis
Caernarfon

Ffôn: 01286 870549
Ffacs: 01286 870549

E-Bost | Gwefan

Mwynderau

  • Toiledau
  • Partïon ysgol
  • Picnic Area
  • Parcio
  • Aiop Anrhegion
  • Partïon Hyfforddwr
  • Arlwyo
  • Pob Tywydd
  • Datganiad Mynediad

Consortiwm

  • NWT
  • Attractions of Snowdonia

VAQAS

VAQAS

Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.

Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...

prisiau

cyffredinol

Oedolion: £7.50
Hyn: £6.90
Myfyrwyr: £6.90
Plant (hyd at 15 oed):£4.50

Grwpiau *

Oedolion: £6.90
Hyn: £6.90
Myfyrwyr: £6.90
Plant (hyd at 15 oed:£3.00

* Nifer lleiaf mewn grwp: 20

Nodyn: Mae tocynnau arbed arian ar gael i deuluoedd: gweler yr enghreifftiau isod (mae unrhyw gyfuniad o oedolion a phlant yn bosibl) 1 Oed + 2 Bl: £12.50; 2 Oed + 2 Bl: £19.00; 1 Oed + 3 Phl: £15.50; 2 Oed + 3 Ph £22.00; 4 Oed + 4 Pl £38.00

Oriau Agor

Rheilffordd Llyn Llanberis

Nodyn: SYLWCH OS GWELWCH YN DDA - Bydd y trenau'n rhedeg rhwng 15 Chwefror a 2 Rhagfyr ond nid bob dydd. Fel rheol: 15 Chwef tan y Pasg - ar ddydd Mawrth/Mercher ac ar ambell ddydd Sul; rhwng y Pasg a mis Hydref - o ddydd Sul tan ddydd Gwener; rhwng Mehefin ac Awst ac yn ystod gwyliau'r ysgol - Bob dydd; Tachwedd tan 2 Rhag - ar ddydd Mawrth/Mercher. I gael manylion llawn edrychwch ar ein gwefan neu ffoniwch cyn ymweld. Trenau Siôn Corn ym mis Rhagfyr hefyd.

categori

Rhan o: Teulu, Diwylliant a Threftadaeth, Cychod, Trenau a Thramiau categori

Sut ydw i'n dod o hyd i Rheilffordd Llyn Llanberis?

Cyfarwyddiadau
7 milltir o Gaernarfon, 10 milltir o Fangor, 15 milltir o Fetws-y-Coed. Dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad Llanberis oddi ar wibffordd yr A55 (Cyff 11) a'r A5.

Bws:
85 Bangor - Llanberis (bob awr, bob 2 awr ar y Sul)
86 Bangor - Llanberis (bob 2 awr, dim gwasanaeth ar y Sul)
88 Caernarfon - Llanberis (bob hanner awr, bob awr ar y cyfan ar y Sul)
S1 Sherpa'r Wyddfa o Ben y Pas (bob awr, bob hanner awr yn yr haf) - cysylltiadau hwylus (llwybr yr S97) i Fetws y Coed, Beddgelert a Phorthmadog. Mae'r S2 o Fetws y Coed i Ben y Pass yn mynd ym misoedd yr haf

Trên:
Bangor (Lein Arfordir Gogledd Cymru ) 12 milltir i'r Gogledd. Mae Bws 85 ac 86 yn aros yn yr orsaf.
Porthmadog (Lein Arfordir y Cambrian) 22 milltir i'r De. Mae Bws S97 yn aros yn yr orsaf.
Betws y Coed (Lein Dyffryn Conwy) 15 milltir i'r Dwyrain. Mae Bws S97/S2 yn dechrau o'r orsaf.

Cludiant Cyhoeddus

Bangor: (Trên) Mae'r bysiau'n aros y tu allan i Orsaf Llanberis (gofynnwch am Gyfnewidfa Dôl y Goeden)

agosaf digwyddiadau

Eich Ffefrynnau

Ychwanegwch eich hoff atyniadau at y rhestr hon trwy glicio ar y botwm +.

Mae gennych no atyniads atyniadau chadw ar eich ffefrynnau.

Gweld eich ffefrynnau

atyniadau cyfagos

Bwyd a diod

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Canolfan Ymwelwyr Copa'r Wyddfa - Hafod Eryri

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 2 milltirs o
Rheilffordd Llyn Llanberis

Caffi Caban

Caffi Caban

Eryri Mynyddoedd a Môr

mwy

tua. 2 milltirs o
Rheilffordd Llyn Llanberis