Rhaffau ac Ysgolion | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Yng nghanol coetir prydferth, lle mae 'na olygfeydd syfrdanol o'r llynnoedd a'r mynyddoedd, mae Rhaffau ac Ysgolion yn brofiad cofiadwy i deuluoedd, i grwpiau neu i unigolion.  Bydd hyfforddwyr profiadol yn tywys ymwelwyr am 2 awr o lamu, dringo, siglo a mentro yn entrychion y coed. Darperir yr holl offer angenrheidiol.
cysylltu
Rhaffau ac Ysgolion
Gilfach Ddu
Llanberis
Gwynedd
Ffôn: 01286 872310
VAQAS

Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £22.50
Plant (hyd at 16 oed):£17.50
Nodyn: Gellir teilwra cyrsiau yn ôl y gofyn wrth drefnu o flaen llaw. Gostyngiadau i grwpiau. Byddwn yn ceisio bod mor gynhwysol ag y bo modd ond rhaid i blant fod yn dalach na 1.30m (4tr 3 m) ac yn wyth oed fan leiaf. Mae'r offer yn gallu cynnal pwysau o 125kg (tua 20 stôn) ar y mwyaf.
Oriau Agor
Rhaffau ac Ysgolion
3 Ionawr - 28 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09:00 - 17:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Bydd yr oriau'n amrywio ychydig yn ôl y galw tymhorol. Mae'n beth doeth iawn trefnu o flaen llaw. Allwn ni ddim gwarantu lle i chi fel arall.
categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Rhaffau ac Ysgolion?
Mae Rhaffau ac Ysgolion mewn man hwylus wrth ymyl Amgueddfa Lechi Cymru ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis. O gyfeiriad Bangor neu Gaernarfon, dilynwch y briffordd drwy Lanberis a throwch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion brown am Barc Gwledig Padarn / Amgueddfa Lechi Cymru /Rheilffordd y Llyn. Cod post LL55 4TY Cyfeirnod Grid: SH 585 603