Mordeithiau'r Glannau, Shearwater | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Cwch modur catamarán moethus yw "Shearwater" sy'n angori yn Hafan Pwllheli. Byddwn yn teithio ar hyd y glannau ac i'r ynysoedd oddi ar Benrhyn Llyn, gan ymweld â theuluoedd o forloi ac adar y môr sydd yn yr ardal. Byddwn fel rheol yn cyfarfod â'r dolffiniaid lleol a byddwn yn tynnu Lluniau-ID ar ran y "Seawatch Foundation", sefydliad sy'n gyfrifol am fonitro dolffiniaid a rhywogaethau eraill yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Cwch mawr, modern, sefydlog yw "Shearwater" ac mae digon o lefydd eistedd arno a lle i grwydro o gwmpas. Os digwydd iddi fwrw pan fyddwn ar y môr, mae digon o le dan do i bawb yn y caban eang. Mae llwyfan ar y starn i bobl allu cerdded yn syth i'r cwch drwy giatiau'r starn heb orfod dringo dros ddim byd, sy'n golygu ei bod yn hwylus i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Mae toiled fflysio ar fwrdd y cwch, a hwnnw'n hawdd ei gyrraedd o'r dec a byddwn yn cynnig panad o de/coffi am ddim i bawb ar bob taith.
Beth am gael golwg ar ein fideo?
cysylltu
Mordeithiau'r Glannau, Shearwater
Crud yr Arwel, Mynytho
Pwllheli
Gwynedd
Ffôn: 01758 740899
VAQAS

Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
Nodyn: Mae'r prisiau diweddaraf i'w gweld yn ein taflen.
categori
Rhan o: Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Cychod, Trenau a Thramiau categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Mordeithiau'r Glannau, Shearwater?
Mae "Shearwater" yn Hafan Pwllheli a gallwch gerdded yno'n rhwydd o ganol y dref. Mae'n bosib archebu lle ar ein teithiau cwch yng Nghanolfan Groeso Pwllheli (01758 613000). Mae maes parcio i ymwelwyr a pharcio am ddim yn y Marina.
Cludiant Cyhoeddus
Pwllheli