Gerddi Dwr Conwy | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Gerddi Dwr Conwy ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng nghanol prydferthwch Dyffryn Conwy, gogledd Cymru.
Ar wahân i'n bwyty trwyddedig, y Dutch Pancake House & Restaurant, mae gennym lu o bethau i'w cynnig:
- 3 llyn pysgota llawn pysgod bras
- Pyllau a choedwigoedd niferus
- Ardal picnic a chwarae i blant
- Acwariwm efo dros 200 rhywogaeth o bysgod
- Ty ymlusgiaid â phob math o greaduriaid rhyfedd
- Canolfan ddwr ichi brynu popeth sydd ei angen ar gyfer eich pwll pysgod
cysylltu
Gerddi Dwr Conwy
Glyn Isa
Rowen
Conwy
Ffôn: 01492 650063
Oriau Agor
Gerddi Dwr Conwy
1 Ionawr -
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09:30 - 18:00 | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() | ![]() |
Nodyn: Ar agor ar Wyliau Banc
categori
Rhan o: Parciau a Gerddi, Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Teulu categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Gerddi Dwr Conwy?
Oddi ar yr A55, dilynwch arwyddion am Gonwy. Ewch dros y bont a throwch i'r chwith o flaen y castell i'r B5106 tuag at Drefriw. Ar ôl 3 milltir, trowch i'r dde tuag at y Ro-Wen, yn syth ar ôl y Groes Inn. (Chwiliwch ar yr arwydd frown i'r ganolfan Acwatig). Filltir i lawr y ffordd, mae ein mynedfa ar y dde. Chwiliwch am arwyddion Gerddi Dwr Conwy a'r Dutch Pancake House.