croeso i atyniadau gogledd cymru
Os yw'ch bryd ar rywbeth tawelach, does dim byd gwell na mynd am dro drwy un o'n parciau gwledig. Cewch grwydro drwy 80 erw yng ngerddi enwog Bodnant.
Os ydych chi'n mwynhau creu, crefft a chael eich ysbrydoli, beth am ymweld â Mostyn, oriel gelf gyfoes fwyaf blaenllaw Cymru.
Mae Gogledd Cymru'n cynnig antur i'r teulu cyfan ac ar odre Eryri, mae Gelli Gyffwrdd, parc antur i'r teulu nad oes ei debyg yn unman.
Cewch eich hudo gan hanes Cymru, a gweld arddangosfeydd gan artistiaid mwyaf blaenllaw'r wlad yn Oriel Plas Glyn y Weddw, adeilad rhestredig Gradd II.
Os ar hanes mae'ch bryd, mae gennym ddigonedd ohono yn y gogledd, gan gynnwys yr unig felin wynt sy'n gweithio yng Nghymru, Melin Llynnon ar Ynys Môn.
Mae gennym amrywiaeth wych o atyniadau antur i'r rheini ohonoch sydd am gael gwefr, gan gynnwys rhai i'ch gwlychu.
Beth am ymweld ag un o Eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae 'na un ar ddeg ohonynt; ewch am dro o gwmpas Erddig, un o dai bonedd mwyaf ysblennydd y wlad.
Mewn dim o dro fe allwch chi fod yn croesi TraphPont Ddwr enfawr Pontcysyllte - yr uchaf ym Mhrydain, cafodd ei wnei'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 2009.
Mae 'na lu o wahanol siopau'n gwerthu bwyd o safon o Gymru, a chaffis a bwytai gwych. Hefyd, mae gennym rai o'r gwyliau bwyd gorau…
Cartref i rai o'r rheilffyrdd bychain gorau un, gan gynnwys Rheilffordd yr Wyddfa; system rhac a phiniwn uchaf gwledydd Prydain.
O anifeiliaid estron i rai'r ffarm a bywyd gwyllt, mae cyfleoedd di-ri i wneud ffrindiau gyda chreaduriaid ffwr a phlu!
Does byth mwy na phont godi rhyngoch chi a rhai o gestyll gorau'r byd.
Mae Gogledd Cymru yn fach, ond mae ein rhestr o atyniadau yn fawr. Gallwch ymweld â Gwarchodfa Natur RSPB yng Nghonwy, neu Pili Palas yn Ynys Mon. Cymerwch y trên i ben yr Wyddfa, neu teithiwch mewn i fynydd trydan Elidir. Teithiwch rhyw un o 11 o lefydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol. A tra rydych yn yr awyr agored, gallwch feicio ar bedair olwyn ym Mharc Glasfryn, reidio ar bedair coes yn Nhal y Foel Canolfan Farchogaeth, neu roi cynnig ar 'glustog bownsio cyntaf Cymru ym Mharc Coedwig Greenwood. Dyna yw'r drafferth gyda Gogledd Cymru. Beth i'w wneud nesaf? Peidiwch â phoeni, mae'r safle hon yn syml iw defnyddio ac yn llawn o atyniadau..