Parc Gwledig Moel Famau | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Parc Gwledig trawiadol yw Moel Famau. Mae'r gweundir grug yn troi'n borffor yn yr Hydref ac mae'n gwrthgyferbynnu’n hyfryd â phorfeydd gleision Dyffryn Clwyd.
Mae'r Parc yn rhan bwysig o Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd. Mae'r grug yn cynnig bwyd a lloches i fywyd gwyllt, megis grugieir, crec penddu'r eithin a'r gylfinir
Gweddillion Twr y Jiwbili yw pwynt ucha'r Parc sef 554m (1818tr). Fe'i codwyd i goffáu Jiwbili Aur George III. Mewn storm yn 1862, cafodd yr heneb Eifftaidd drawiadol hon ei dymchwel gan adael dim ond y bôn sydd i'w weld yno heddiw.
Mae'r Parc yn ymestyn dros 2000 erw ac fe'i rheolir gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Mae'r gwasanaeth yn ceisio gwella'r gweundir grug, y waliau cerrig a'r llwybrau ac yn cynnig gwybodaeth a chyfleusterau i ymwelwyr. Menter Coedwigaeth sy'n rheoli'r Goedwig gyfagos drwy blannu conwydd cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu pren ac i fod yn gyrchfan i ymwelwyr.
Beth am gael golwg ar ein fideo?
cysylltu
Parc Gwledig Moel Famau
Moel Famau,
Parc Gwledig
Mold
Ffôn: 01352 810 614
Oriau Agor
Parc Gwledig Moel Famau
Nodyn: Rhwng Cyfnos a Gwawr, Drwy'r Flwyddyn
categori
Rhan o: Parciau a Gerddi categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Parc Gwledig Moel Famau?
A494 rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun.