Canolfan Grefftau Rhuthun | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Canolfan Grefftau Rhuthun wedi'i gweddnewid gyda nawdd Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae'r gwaith wedi'i orffen erbyn hyn.
Mae'r ailddatblygiad syfrdanol hwn a gynlluniwyd gan benseiri Sergison Bates yn yr un safle â'r ganolfan wreiddiol ac wedi'i osod yn ei dirlun ei hun. Adeilad deinamig sydd wedi'i wneud o sinc a cherrig cast yw hwn ac mae tonnau'r to'n adleisio bryniau Clwyd sydd o'i gwmpas.
Mae i'r ganolfan dair oriel, chwe stiwdio i artistiaid, oriel gwerthu, gweithdai addysg a phreswyl, porth gwybodaeth i dwristiaid a chaffi, ynghyd â theras tu allan.
cysylltu
Canolfan Grefftau Rhuthun
Y Ganolfan i'r Celfyddydau Cymhwysol
Heol y Parc
Ruthin
Sir Ddinbych
Ffôn: 01824 704774
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Oriau Agor
Canolfan Grefftau Rhuthun
1 Ionawr - 29 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:30 |
categori
Rhan o: Celf, Crefft, Diwylliant a Threftadaeth, Amgueddfa ac Oriel categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Grefftau Rhuthun?
Mewn Car
O'r De: A5, A494. O'r Gogledd: A55, A494 arwydd Rhuthun
Mewn trên
Y Gorsafoedd Trenau agosaf yw'r rheini yng Nghaer a Wrecsam lle mae'r bysiau lleol yn mynd yn syth i Ruthun.
Cludiant Cyhoeddus
Caer a Wrecsam